GeraintHUGHESHUGHES - GERAINT. 19 Mawrth, 2015. Yn sydyn yn ei gartref 10 Glan Rhonwy, Nantlle, yn 58 mlwydd oed. Tad amhrisiadwy Claire, Ger Bach a Sarah, a thaid balch ei wyrion a'i wyresau; brawd gofalus Anwen, Gareth, Megan, Ifan, Idris a'r diweddar Ieuan a Gwynfor a'u teuluoedd. Hefyd yn gyfaill triw ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Angladd fore Iau, 2 Ebrill, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 11.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano i'w rhannu rhwng Sefydliad Prydeinig y Galon a'r Multiple Sclerosis Society. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Geraint