EmlynHUGHESHUGHES - EMLYN. 13 Chwefror, 2016. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, ac o Blaen y Garth, Nantlle (Hafod a Geulan gynt), yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Jane Catherine a thad arbennig Robin a'i gymar, Awena, a'r diweddar Dewi; brawd hoff Maldwyn, a brawdyng-nghyfraith ac ewythr gofalus a thriw. Angladd brynhawn Sadwrn, 20 Chwefror, 2016. Gwasanaeth cwbl breifat ar yr aelwyd, yn ôl ei ddymuniad, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Carmel am oddeutu 1.30 o'r gloch. Blodau gan y teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Emlyn i'w rhannu rhwng Apêl Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates