John MaldwynHUGHESDymuna Delyth, Si?n, Rachel, Aaron, Menai a'r teulu ddiolch yn ddiffuant am bod arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth, ac am y rhoddion hael tuag at Gronfa Ymchwil Alzheimers Prifysgol Caerdydd. Diolch i ddoctoriaid a staff Meddygfa Teulu Corwen am eu gofal arbennig o John. Diolch hefyd i swyddogion Capel Coffa Henry Rees, Llansannan a Chapel Cildwrn, Llangefni am eu cymorth, ac i'r Parch Hywel Meredydd Davies, y Parch Meirion Morris a'r Parchedig Ddr Rhodri Glyn am wasanaeth arbennig. Diolch i Mrs Mair Owen am chwarae'r organ, ac i Mr Trebor Roberts am godi canu, i Heulwen a Margaret am baratoi'r lluniaeth, ac i Arwel o gwmni R W Roberts a'i Fab, Dinbych am y trefniadau trylwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates