Megan ElinorHUGHESHUGHES - MEGAN ELINOR. (Megan Plisman) Tachwedd 5ed, 2016. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd o Lleyn, 40 Stryd Fawr, Llannerchymedd yn 83 mlwydd oed. Priod y diweddar Heddwas John Hughes a chymar y diweddar John Wardle, Mam annwyl Terry a'r diweddar Robin, Mam-yng-nghyfraith Bethan a Llinos, Nain hoff Carwyn, Lowri, Cian a Gethin, chwaer a ffrind i Grace. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair Llannerchymedd ar ddydd Llun y 14eg o Dachwedd am 12 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at yr Eglwys yn Llannerchymedd trwy law yr ymgymerwyr E Williams a'i Fab, Wenllys , Llannerchymedd. 01248 470261.
Keep me informed of updates