EmlynHUGHESHUGHES - EMLYN (Ems Capel Helyg) Medi 6ed 2019 wedi blynyddoedd o ddioddef afiechyd creulon, yn 62 mlwydd oed ac yng ngofal tyner ei deulu, bu farw Ems yn ei gartref. Priod annwyl Nerys; Tad arbennig Sian a'i phriod Huw, Mari a'i phartner Iwan, Tomos a'i bartner Amy; Taid balch Deio, Dyfan a Iori, Arthur ac Ela, Deion, Neli a Magi; Brawd Gwilym, Valmai a'r diweddar Alwyn a ffrind annwyl i lawer. Angladd cyhoeddus yng Nghapel Siloh, Chwilog, ddydd Sadwrn 14 Medi am 10-30 y.b. ac i ddilyn ym Mynwent Capel Helyg, Llangybi. Dim blodau os gwelwch yn dda ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ems er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Cronfa Dystonia a Ward Plant Ysbyty Alder Hey trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth. (01766)522854.
Keep me informed of updates