KennethHUGHESDymuna Eirys, Siân a Elin ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a'r holl garedigrwydd ddangoswyd tuag atynt gan deulu, ffrindiau a chymdogion yn dilyn eu profedigaeth lem o golli priod, tâd a thaid annwyl iawn mor frawychys o sydyn. Diolchwn yn enfawr am y rhoddion hael o £2,750 dderbyniwyd er côf am Ken tuag at Meddygfa Waunfawr ac Elusen Gafael Llaw. Diolch i'r Parchedig Gwenda Richards am ei phresenoldeb a'i gwasanaeth. Diolch o waelod calon i Gôr Meibion Caernarfon am y deyrnged deilwng ac am flynyddoedd o fwyniant a hwyl dderbyniodd Ken fel aelod yn eu cwmni. Diolch i Enid a'i staff Clwb Golff Caernarfon am weinyddy'r lluniaeth, i Carol am y blodau hardd a diolchwn i'r ymgymerwyr Roberts ag Owen Penygroes o dan ofal parchus Iolo Owen am eu trefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Kenneth