RhianHUGHESDymuna Gwilym a theulu y diweddar Rhian, 18 Springdale, Hen Golwyn, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli Gwraig, Mam, Mam yng Nghyfraith, Nain a Hen Nain annwyl, addfwyn ac arbennig iawn. Dymunwn ddiolch yn fawr i'r Parch. Helen Wyn Jones a'r Parch. Trefor Lewis am wasanaeth teimladwy yng Nghapel Hebron ar ddiwrnod yr angladd. Diolchwn hefyd i'r cyfeilydd, Daniel, i'n teulu a ffrindiau oll a'r nyrsys cymunedol am eu gofal ddiflino. Gwerthfawrogir y cardiau a'r rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at gynnal a chadw mynwent Eglwys Sant Elian, Llanelian. Mae ein dyled yn fawr i'r ymgymerwyr R.W. Roberts a'i fab, ac yn arbennig i Hefin am eu trefniadau urddasol. Diddiwedd yw fy mhoen a'm cûr Ar ôl dy golli di 'Nin' annwyl, Fy nghariad pûr, Fe'th garaf di fyth fythoedd. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates