R. CyrilHUGHESHunodd yn ei gartref yn Llanfairpwll, yn 89 oed, ar 01/04/2022. Priod y diweddar Nan; tad Rhiryd, Rhys, Siôn a Huw, a thad yng nghyfraith Amy, Wendy, Mari a Catrin. Taid Beth, Ruby, Branwen, Guto, Siwan, Beca, Hanna, Erwan, Osian, Iwan a Deio; hen-daid Caio, Pearl a Lexi, a chyfaill Matt, Amy, Bernie, Guto, Rob, Steve a Non. Nofelydd, athro, darlithydd yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac arloeswr ym myd addysg dwyieithog. Gwr diwylliedig, llengar a gwlatgarol, cymwynaswr y Gymraeg a'i gymuned - bydd hiraeth ar ei ôl. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd ar 20fed Ebrill. Blodau i'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion tuag at Tenovus Cymru trwy law W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312. Bydd y gwasanaeth ar gael i'w ffrydio - cyfrinair gan Rose & Thistle.
Keep me informed of updates