Abner ElwynHUGHES17eg Tachwedd 2023 yn dawel yng nghwmni ei deulu ac yng ngofal tyner staff Cartref Ceris Newydd Treborth ac o Chwilog Bach, Chwilog yn 88 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Elizabeth a tad arbennig Mary, Elfed a Iolo. Brawd annwyl ei frodyr a chwiorydd, Lodge Uchaf Trallwyn ac ewythr hoffus. Bydd yn golled i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Pencaenewydd fore Sadwrn 2il Rhagfyr am 11 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Pentreuchaf. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gronfa Staff Cartref Ceris Newydd, Treborth trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates