EirlysHUGHES12 Ionawr, 2024. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 42 Bro Rhos, Bethel yn 73 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Richard (Dic Bethel) a mam a mam-yng-nghyfraith amhrisiadwy Carys a Dyfed, Eirian ac Iwan; nain annwyl Alun a Gwawr, Sara a Fflur, a ffrind triw i bawb. Angladd fore Gwener, 2 Chwefror, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Caernarfon am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llanrug. Derbynnir blodau yn ddiolchgar er cof am Eirlys, neu roddion, pe dymunir, tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Eirlys