Emyr PerisHUGHESGorffennaf 8, 2024. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu, ac yn ddiweddar o Llety, Caeathro a gynt o Garej Dolydd, Groeslon yn 69 mlwydd oed. Priod cariadus Eleri, tad annwyl Kerry, Dyfed, Sioned a Ffion a thad yng nghyfraith Gerallt, Ilid, Joe ac Aaron. Taid hoffus Ethan, Jodie, Meagan, Elis, Ava, Charlie, Non, Alfie, Hari, Gethin, Luca a Mali. Brawd hoff Rhydwen a Harry a mab y diweddar Dafydd a Dilys Hughes. Bydd colled trist i'w deulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Glanrhyd, Llanwnda dydd Gwener Gorffennaf 19, 2024 am 11:00 o'r gloch ac i ddilyn yn mynwent Rhosgadfan.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Kidney Patients Association a cronfa gwaddol Ward Alaw.
Ymholiadau pellach- Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caernarfon. Ffôn (01286) 673072
Keep me informed of updates