MeirwenHUGHESGorffennaf 12fed 2024
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Cwellyn, Heol Elwy, Abergele yn 81 mlwydd oed.
Priod ffyddlon John Eric, mam gefnogol Owain, Luned ac Einion, mam yng nghyfraith annwyl Einir, Iwan a Claire, nain garedig Heledd a Lowri, Elin, Alys a Millie ac Ifan, chwaer Eirwyn, chwaer yng nghyfraith, modryb hoffus a ffrind triw i lawer.
Gwasanaeth preifat i'r teulu yn Amlosgfa Llanelwy gyda gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch am fywyd a gwaith Meirwen yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele, ddydd Iau Gorffennaf 25ain am 11.30 o'r gloch.
Dim blodau yn ôl dymuniad ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Tŷ Gobaith, Conwy.
trwy law
R.W. Roberts a'i Fab
Plas Tirion, Rhodfa Cinmel
Abergele LL22 7LW
Ffôn 01745 827777
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Meirwen