MattieHUGHES18 Tachwedd, 2024. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, yng ngofal ei dwy ferch, ac o Glyder, 8 Ffordd Capel Coch, Llanberis yn 91 mlwydd oed. Gwraig arbennig y diweddar John Hugh Hughes a mam amhrisiadwy Carys a'i phriod Em, a Bet. Nain annwyl Ceri a Wayne a Huw Ior a Sian, a Hen Nain Bêr hwyliog Deio, Dyfan a Iori. Yn chwaer ffyddlon i Doris a'r diweddar Mairwen, Ty Isa' Clynnog Fawr. Cymwynaswraig a ffrind i lawer. Cynhelir gwasanaeth i ddathlu bywyd cyfoethog Mattie yn Festri Capel Coch, Llanberis am 2.30 o'r gloch brynhawn Gwener, 29 Tachwedd gyda lluniaeth a sgwrs i ddilyn yng Ngwesty'r Fictoria, Llanberis. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, pe dymunir, tuag at Gronfa Trigolion Plas Pengwaith. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Mattie