RhodaHUGHES19 Tachwedd 2026
Yn dawel ar ol gwaeledd byr yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd o Plas Dyffryn, Fali gynt o Dwylan, Ffordd Pendyffryn, Fali yn 90 mlwydd oed.
Annwyl briod y diweddar Gwilym Evan Hughes (signal man), Mam dyner Carol, Alwyn, Rhian, Bryn a Geraint, nain a hen nain gariadus. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Iau, 3 Rhagfyr 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Ynys Wen. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates