JohnHYWYN1 Ebrill, 2024. Yn dawel yn ei gartref yn Ffrwd, Llandwrog, yn 76 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Gwenno a thad arbennig Rhys a Nia; taid balch Ifan, Erin, Deio a Gwenno a chyfaill annwyl Ann a Gab. Mab hoff y diweddar Nanw a'r Parchedig Emrys Edwards a brawd mawr Glen. Mab-yng-nghyfraith y diweddar Glenys, brawd-yng-nghyfraith addfwyn Carys a Wil a'r diweddar Luned, ac ewythr hoffus i'w nithoedd a neiaint. Angladd brynhawn Gwener, 12 Ebrill, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Llandwrog am 2.00 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Nyrsus Cymunedol Pen-y-groes a Tuag Adref, trwy law Roberts ac Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates