VeraJAMESYn dawel, bu farw Vera, Y Fron, Llambed, yn Ysbyty Glangwili ar Fedi 28, yn 91 oed. Gwraig a chariad mawr Delfryn; mam ofalus a thriw i Elin a Iona; mam-yng-nghyfraith Dafydd ac Aled; mam-gu annwyl Ifan, Guto, Marged, Hywel a Greta, a hen fam-gu Leusa a Luke. Bydd hiraeth mawr ar ei hôl. Cynhelir gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Aberystwyth ar Hydref 14. Rhoddion er cof amdani, os dymunir, i Tŷ Hafan, d/o Gwilym Price a'i fab a'i ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan. SA48 7DY. (01570 422673)
Keep me informed of updates