Gwen JonesJAMESYn 89 mlwydd oed, hunodd Gwen yn dawel yn ei chartref, Dyfnant, Rhyd-y-main, ar y 7fed o Ionawr. Cymar oes John Glynmor, mam a mam-yng- nghyfraith driw Rhianwen a Huw ac Iwan a Gwenan, nain arbennig Llŷr, Rhys, Huw Ynyr, Marged a Tomos, hen nain Gwenno Llŷr a chwaer annwyl Mair. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch am ei bywyd yng Nghapel Rhyd-y-main am 1.00 o'r gloch ddydd Sadwrn, yr 28ain o Ionawr, ac i ddilyn yn y fynwent. Yn lle blodau, derbynnir rhoddion er cof tuag at Neuadd Rhyd-y-main drwy law Mr Huw Alun Evans, Hengwrt Uchaf, Rhyd-y-main, Dolgellau, LL40 2AR. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY (Ffôn: 01341 422322).
Keep me informed of updates