MyraJAMESYn dawel dydd Iau Ionawr 12fed yn 82 mlwydd oed hunodd Myra, Cartref Llys Fechan, Cross Hands, gynt o Bro'r Awel, Rhydargaeau, Caerfyrddin. Priod annwyl y diweddar Basil, mam gariadus Eurig ac Emyr, mam yng nghyfraith garedig Meinir a Sioned, mamgu arbennig Manon, Aled, Dafydd, Heledd a Gwennan a chwaer annwyl. Gwasanaeth coffa cyhoeddus yng nghapel Peniel Caerfyrddin ar ddydd Mercher, 25ain Ionawr am 12:30 y.p. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Gymdeithas Alzheimer trwy law'r Trefnwr Angladdau, Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE 01994 484540 07974 313719.
Keep me informed of updates