Evan DanielJAMESYn dawel yn Ysbyty Treforys dydd Llun Gorffennaf 29ain 2024 yn 89 mlwydd oed hunodd Ieuan, Aelybryn, Heol Maestir, Llanbedr Pont Steffan (gynt Blaencathal). Priod ffyddlon y diweddar Eluned, brawd, brawd yng nghyfraith ac wncwl hoffus. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Brynhafod, Gorsgoch dydd Mawrth, Awst 6ed 2024 am 2.30 o'r gloch. Blodau'r teulu agos yn unig. Derbynnir cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg Llandysul, SA44 4XB. Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates