JANE OWEN OWENOWEN - Dymuna Gareth, Nerys, Dilwyn ac Alwyn ddiolch o galon am y cardiau, yr ymweliadau a'r geiriau cysurus o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam annwyl, sef JANE OWEN, 6 Corn Hir, Llangefni. Diolch i'r Parchedig J.D. Hughes, Y Parchedig J.M.Job ac yn arbennig i'r Parchedig Christopher Prew am eu gwasanaeth ar ddydd yr angladd. Diolch hefyd i'r organyddes Miss Dilys Hughes. Gwerthfawrogir y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Gronfa Capel Cana, Rhostrehwfa er cof am mam. Diolch yn arbennig hefyd i Karen am y blodau bendigedig. Yn olaf diolch i'r Ymgymerwyr R.Hughes a'i Fab, Llangefni am y trefniadau trylwyr ac urddasol. "Dagrau hiraeth dreigla'n dawel".
Keep me informed of updates