BrianJAPHETH13 Gorffennaf, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Christie, Manceinion, ac o Berwyn, Trefor, Caernarfon, yn 74 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Marina, a thad arbennig a chariadus Mona, Alaw, Llio ac Ilid; tad-yng-nghyfraith a ffrind addfwyn i Gwylym, Robat, Aron a Gwennan, taid balch Erin, Begw, Caio, Deio, Cati, Nedw, Heti, Math, Madi a Myfi, brawd gofalus Beryl, Gwenan, a brawd-yng-nghyfraith hoff Huw, Eric ac Eleri.
Angladd fore Sadwrn, 1 Awst, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghanolfan Trefor am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn yn gwbl breifat ar lan y bedd ym Mynwent Pentreuchaf.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Brian tuag at Uned Alaw, Ysbyty Gwynedd, Bangor, a Gafael Llaw.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates