Thomas EvansJENKINSHunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu nos Wener 22ain o Fedi 2023 yn 94 mlwydd oed, Tom, Tegfryn Dihewyd. Priod annwyl Mair, Tad balch Melda, Wendy a Siân, Tadcu cariadus Elen, Delyth, Bethan, Dafydd, Myfanwy, Catrin, Caryl, Carwyn a Carys, Ffrind arbennig i'w or-wyrion Arthfael, Prys, Griff, Megan, Axl, Ella, Llian ac Esyllt a brawd hoffus i Non a'r diweddar Alun ac Ieuan. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus ym mynwent Capel M.C. Bethania ddydd Sadwrn, Medi 30ain am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, cyfraniadau os dymunir tuag at Prostate Cymru trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul,SA44 4XB. Ffon 01545 590254
Keep me informed of updates