30ain O DachweddJONES. EIRAYn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gynt o Llwyn-y-Gôg, Coed y Fronallt, Dolgellau, yn 96 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar H.R., mam a mam-yng-nghyfraith dyner Geraint ac Eirian, Delyth a Richard, Bethan a John, nain gariadus i Meilir, Steffan a Rhodri, Lisa a Lowri, Cai a Beca, nain-doli Ela a Gwydion. Gwasanaeth Coffa yng Nghapel y Tabernacl, Dolgellau, dydd Gwener, 13eg o Ragfyr am 2 o'r gloch. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Cymdeithas Alzheimers Cymru trwy law Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322 neu Dinas Mawddwy 01650 531 240.
Keep me informed of updates