HefinJONES-ROBERTS8 Hydref, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei briod yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Fern Bank, 45 Dorvil Street, Blaenau Ffestiniog, yn 91 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon Margaret, a thad balch a chariadus Elfyn, Dylan, Gareth, Llinos ac Elizabeth, hefyd tad-yng-nghyfraith, taid a hen-daid triw, a brawd Gwenys.
Angladd fore Llun, 26 Hydref, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn yn gwbl breifat ar lan y bedd.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Hefin tuag at Prostate Cancer UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates