OlwenJONESYn dawel ar Fai 23, 2015, yng nghartref ei mab yn Rhodfa Santes Ann, Cwmffrwd, Caerfyrddin, yn 100 oed hunodd Olwen, Ael y Fro, Cwmffrwd, gynt o Cincoed; priod hoff y diweddar Idris, mam gariadus Gwenda, Gareth a'r diweddar Wyndham, mamgu addfwyn Delyth, Philip, Judith, Sian ac Aled, hen famgu hoffus Nicholas, Kieran, Katie, Alex a Lois Alaw a mam-yng-nghyfraith barchus Dilwyn a June. Angladd ddydd Gwener, Mai 29, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Penygraig, Croesyceiliog am 12 o'r gloch. Dim blodau ond cyfraniadau er cof, os dymunir, i Gapel Penygraig trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2AP. Ffon 01267 241626.
Keep me informed of updates