AlanJONES(Aberlleine) Wrth i'r haul fachlud ar ddiwrnod olaf Mehefin 2015, yn dawel yn Ysbyty Glangwili, hunodd Alan Aberlleine, Waungilwen; ffrind a phriod annwyl Brenda, tad gofalus Sioned a Kevin, Aled a Delyth, tad-cu balch Manon, Siriol, Rhys, Sara a Beca a mab cefnogol Myra a'r diweddar Tom. Gwasanaeth angladdol hollol breifat; plethdorch y teulu yn unig, rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Bryngwenith, ymholiadau pellach i'r ymgymerwr angladdau Maldwyn Lewis. Ffôn 01239 851005.
Keep me informed of updates