Megan ElunedJONESYn dawel yn Ysbyty Glangwili, ddydd Sadwrn, Hydref 24 2015, yng nghwmni ei theulu, bu farw Megan Eluned (Meg) yn 82 mlwydd oed; priod ffyddlon y diweddar Cyr, mam annwyl Anne, David a John, mam-yngnghyfraith barchus Adrian, Shirley a Sulwen a mamgu hawddgar ei hwyrion a'i gor-wyrion. "Hedd, perffaith hedd". Angladd hollol breifat yn ôl ei dymuniad, dydd Gwener, Hydref 30. Manylion pellach i Wyn Williams, Trefnwr Angladdau, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul. Ffon 01559 370412.
Keep me informed of updates