NancyJONESY Crossing, Pwllheli I gofio am wraig, mam, nain a hen nain arbennig iawn ar ei phen-blwydd 14eg o Chwefror. Dy ben-blwydd ddaeth unwaith eto, Fel y gwanwyn yn ei dro, Tri deg pump oedd y flwyddyn, Pan ddois ti i’r byd tros dro. Dod a wnest fel awel dyner, I flodeuo yn y fro, Heb ar wybod nad oes neb yn aros yma, Dim ond hiraeth, llun a chof. Ond fe wnest ti argraff arnom, Trwy’r blynyddoedd yn eu tro, Yn enwedig pan ddaw Chwefror, I ail agor llwybrau’r cof. Diolch iti Nancy annwyl, Am dy gwmni ar y daith, Gwag yw bywyd ar ol colli, Un fel ti am amser maith. E.J. Evan John, Mair, Lena, Alun, Valmai, Iona, Arthur, Iris, Glenys a’r holl wyrion a wyresau, a’r gor wyrion a’r gor wyresau.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Nancy