SydneyJONESYn dawel ym mhresenoldeb ei theulu yng Nghartref Nyrsio Plas Gwyn, Pentrefelin (gynt o 21 Maes Hyfryd, Carmel). Gwraig cariadus y diweddar Henry Jones (Harry Bwtsiar). Dymuna Les, Carol, Iola, Eric, Valmai a Lynn fynegi eu diolchiadau diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd trwy gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau yn ystod eu profedigaeth o golli mam, mam-yngnghyfraith, nain, hen-nain a hen-hen-nain annwyl a charedig iawn. Diolch i'r Parchedig Gwenda Richards a'r organyddes Eurgain Eames. Diolch hefyd i Gwen Williams, Tyn Twll, Clynnog Fawr am y lluniaeth bendigedig ar ddydd yr angladd. Gwer thfawrogwyd pob gofal gafwyd yng Nghartref Bryn Meddyg. Diolch yn ddiffuant i Matron a staff Cartref Nyrsio Plas Gwyn, Pentrefelin am eu gofal arbennig, eu parch a'u caredigrwydd. Diolch hefyd i Dr. Edwards, Criccieth. Diolch i bawb am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Sydney tuag at Gartref Nyrsio Plas Gwyn. Llawer o ddiolch i Iolo Owen o Roberts & Owen am y trefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates