Dafydd WynJONESJONES - DAFYDD WYN. 22 Tachwedd 2015. Yn dawel ymhlith ei deulu yn Ysbyty Gymuned Bro Ddyfi, Machynlleth yn 91 mlwydd oed, o Blaenplwyf Uchaf, Aberangell. Priod annwyl Eurwen, tad hoffus Menna, Geraint a'r diweddar Meinir Wyn; taid arbennig i Osian, Carwyn, Siôn, Elin, Eiri ac Owain. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Mallwyd dydd Sadwrn, 28 Tachwedd am 1.00pm ac i ddilyn ym mynwent yr eglwys i'r teulu'n unig. Blodau gan y teulu ond os y dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Uned Twymyn, Ysbyty Gymuned Bro Ddyfi, Machynlleth ac Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Stephen Tudor, Llwyn, Cemaes, Machynlleth SY20 9AA. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn : 01650 531 240.
Keep me informed of updates