IvyJONESJONES - IVY. Dymuna Tom, Stephen ac Aled, a theulu'r diweddar Ivy Jones, Awel y Mynydd, Carmel ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, nain a chawer arbennig iawn. Diolch am yr holl gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau, yn ogystal a'r rhoddion hael o dros £2,000 er cof am Ivy, i'w rhannu rhwng Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Urdd Cyfeillion Ysbyty Eryri, Caernarfon, fel diolch am y gofal diflino a gafodd ganddynt. Diolch hefyd i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasanaeth a hefyd i'r organyddes Mrs Eurgain Eames. Diolch arbennig i Iolo, Robin, Janice a'r hogia o gwmni Roberts ac Owen am eu trefniadau trylwyr a theimladwy.
Keep me informed of updates