Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

The obituary notice of Huw JONES

North Wales | Published in: Daily Post.

Change notice background image
HuwJONESJONES - HUW ELWYN. Cyfreithiwr uchel ei barch a phrofiadol iawn oedd Huw Elwyn Jones a fu farw yn 65 mlwydd oed ar yr 11 o Fedi. Ei daid oedd y Parchedig E. Tegla Davies, gweinidog Wesleaidd adnabyddus, awdur toreithiog a phregethwr heb ei ail. Ei dad oedd Syr Elwyn Jones, cyfreithiwr nodedig arall a gafodd ei urddo yn 1978 am ei wasanaeth i achos chwarelwyr y Gogledd. Fel ei dad yr oedd ymrwymiad Huw Elwyn i wasanaeth cyhoeddus wedi ei seilio ar argyhoeddiad dwfn ac ymwybyddiaeth oleuedig. Ar ol derbyn addysg gynradd yn Ysgol Hillgrove, Bangor, aeth Huw Elwyn i Ysgol Westminster ac oddiyno i Christchurch, Rhydychen, yn 1962 i astudio'r gyfraith, gyda'r bwriad o fynd i'r Bar. Daeth salwch Syr Elwyn yn 1971 a Huw yn ol i Fangor ac, yn lle dychwelyd i Lundain yn 1972, dewisodd aros yno i ddatblygu ac ehangu'r cwmni, Elwyn Jones & Co. Yr oedd gofal a diwydrwydd Huw Elwyn yngylch buddiannau ei gwsmeriaid, hen a newydd, yn ddiarhebol. Ei gryfder oedd ei allu i weld y ddwy ochr i'r ddadl, y gwendidau a'r cryfderau, ac o'r herwydd roedd yn gallu rhoi cyngor gwrthrychol, grymus, deallus a doeth er mwyn cael y canlyniad mwyaf ffafriol i'w gwsmer. Yr oedd yn ddyn o gywirdeb dwfn a thegwch llwyr. Yr oedd hefyd yn ddyn a'i wreiddiau'n ddwfn yn ei gymuned ac yr oedd yn falch o allu cyfrannu tuag ati, yn ei holl agweddau. Yn ystod ei fywyd fe'i penodwyd yn Is Farnwr Rhanbarthol ac ef oedd un o brif sefydlwyr Cymdeithas Cyfreithwyr Gwynedd. Yn 2005 daeth yn llywydd clwb Rotary Bangor yn ystod blwyddyn canmlwyddiant Rotary. Deng mlynedd yn ol, fel ei dad o'i flaen, daeth yn Drysorydd Prifysgol Bangor, ac yr oedd ei gyfraniad grymus i bwyllgorau'r coleg yn werthfawr a doeth. Y mae ei golled i'w deulu a'i gymdeithas yn un na ellir ei chyfryf. Y mae ei wraig, Anna, ei blant, Sara, Angharad ac Edward, a'i chwaer, Carys, yn ei oroesi.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Huw
410 visitors
|
Published: 17/10/2009
5 Potentially related notices
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
Next
David Albert DRAYCOTT