MargaretJONESJONES - MARGARET ROSE Medi 12fed, 2009, yn dawel yn ei chartref ar ol cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr yn 58 mlwydd oed o Pengelli, Rhosybol (gynt o Tawelfan, Mynydd Mechell) priod annwyl Dafydd, mam arbennig Nia ac Elen, nain balch Corey, chwaer tyner Dilys, Hughie, Robart, Richard ac Arfon, merch yng nghyfraith i Dick a Dolsi Jones (Capel Mawr) chwaer yng nghyfraith a modryb hoff. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd dydd Iau Medi 17eg, preifat ar yr aelwyd i'r teulu agos yn unig. Gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Bethel Hen, Llanrhyddlad am 1.30 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym mynwent y capel. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof am Margaret yn ddiolchgar tuag at Nyrsus Marie Curie a Hospis yn y cartref trwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands, Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni LL77 7DU Ffon: 01248 723111.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret