Robert JohnJONESJONES - ROBERT JOHN., . Yn dawel ar 31ain o Orffennaf yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Tanrallt Efailnewydd yn 83 oed. Priod annwyl ac addfwyn Catherine. Tad caredig a gofalus Gwyndaf a Rhian, Iona a Huw, Meirwen a Dewi a'r diweddar Medwyn bach. Taid hwyliog a balch Gruffydd a Gwenno; Lowri, Betsan a Martha; Swyn, Beca a Math. Unig frawd Helen. Brawd yng nghyfraith y diweddar Tegfryn, Gwyneth a Hywel. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Berea Efailnewydd am 12.00 o'r gloch dydd Mawrth Awst yr 8fed ac i ddilyn ym mynwent Penrhos. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ty Gobaith ac Ymchwil y Galon trwy law yr ymgymerwyr G.W. Parry, Gallt y Beren, Rhydyclafdy. 01758 740233.
Keep me informed of updates