MaryJONESJONES - MARY. Awst 21ain, 2009. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gynt o 9, Felin Graig, Llangefni a Lodge Uchaf, Tregaian, yn 94 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar John Jones a mam falch Rita a'r ddiweddar Phyllis, mam yng nghyfraith a ffrind annwyl i Henri a'r diweddar Derek. Nain gariadus i Elgan, Rhys a'i briod Heledd a Mared a Steffan, a hen nain garedig i Gwawr Elenid. Gwelir ei cholli gan deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Iau Awst 27ain, gwasanaeth yng nghapel Gosen, Llangwyllog am 1 o'r gloch ac i ddilyn, rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Belan, Llynfaes. Derbynnir blodau yn ddiolchgar os dymunir. Ymholiadau i'r Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7EF. Ffon 01248 723497.
Keep me informed of updates