KeithJONESYn frawychus o sydyn ar ddydd Sul 20fed Awst 2017, hunodd Keith o Rhandir Wen, Pencader yn 61 mlwydd oed. Priod annwyl Denise, tad cariadus Dafydd ac Angharad (a Llew y ci anwes); tadcu gofalus Iestyn, Dion a George; mab, brawd, perthynas a ffrind hoffus. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Mawrth 29ain Awst am 4.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at 'Ymatebydd Cyntaf, Llandysul' trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH Ffon 01239 851 005.
Keep me informed of updates