David JohnJONESJack Yn dawel yng nghartref Yr Hafod, Aberteifi ar ddydd Iau 26ain Hydref 2017 hunodd Jack gynt o Landdu, Blaencrymant ac Afallon; priod annwyl y diweddar Anita, tad cefnogol Margaret, Helen a'i phriod Seamus, tadcu hoffus Adrian a Trinette, Marie a Wietse, Kirsty a Gari, a Shane; hen-ddadcu cariadus Llion, Mia, Ela ac Ellie; brawd hoff y diweddar Melva. Gwasanaeth Angladdol Preifat a Chladdedigaeth yng Nghapel Carmel, Prengwyn ddydd Iau 2il Tachwedd am 2.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig. Derbynnir os dymuner gyfraniadau er budd ymchwil dementia (sieciau yn daladwy i 'Alzheimers Society') trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH Ffon 01239 851005.
Keep me informed of updates