ElizabethJONESJONES - ELIZABETH ELLEN. 5 Tachwedd, 2009. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Bryn Heli, Llanrug. Priod annwyl a ffyddlon Maldwyn, mam amhrisiadwy John, Gwyneth, Aled a Bryn, mam-yng-nghyfraith hoff Alwena, John, Bethan a Carmen; nain arbennig Robin, Dafydd, Steffan, Angharad, Megan, Carwyn, Gwion ac Ifan a hen nain dyner Cian bach. Chwaer gariadus Gwilym a'r diweddar Elwyn, a chwaer-yng-nghyfraith Joan, Alwena a Linda. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Mawrth, 10 Tachwedd, 2009. Gwasanaeth preifat ar aelwyd Bryn Heli, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym mynwent Llanrug am oddeutu 1.15 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at waith arbennig Ysgol Pendalar, Caernarfon. Ymholiadau pellach i Roberts ac Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. Ffon: 01286 675658/881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth