ArwelJONESJONES - ARWEL Dymuna Els Jones a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth. Gwerthfawrogir yn fawr gymorth parod cymdogion a ffrindiau yn ystod salwch Arwel ac wedi'i ymadawiad. Diolch i'r meddygon a'r staff yn y Ganolfan Iechyd yn y Blaenau, i Mr Kevin Jones a'r staff yn Fferyllfa Moelwyn, i staff Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd a staff ward Morfa, Alltwen am eu gofal. Bu'r gwasanaeth yn yr Amlosgfa a'r un yn Rehoboth, Harlech dan arweiniad y Chwaer Bethan Johnstone a chyfraniadau Brodyr yn y ffydd yn gysur eithriadol. Diolch i'r ddau organydd, Mr D. Wynn Williams a'r chwaer Olwen Evans, ac i'r darllenwyr Carys Sutherns a Wendy Evans. Bu cefnogaeth aelodau Rehoboth ac Engedi Harlech yn amhrisiadwy. Cysur hefyd oedd cael cwmni'r gynulleidfa yn y ddau le. Bu'r Ymgymerwr Gareth Williams a'i ferch Carys yn broffesiynol a sensitif yn eu trefniadau. Cydnabyddir yn ddiolchgar help Pritchard a Griffiths. Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd at Cymorth Cristnogol er cof am Arwel.
Keep me informed of updates