Eirlys CefniJONESJONES - EIRLYS CEFNI, 21ain o Ionawr 2018. yn dawel yn ei chartref 95 Carneddi Road, Bethesda ar ?l gwaeledd byr yn 84 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Robert Cefni Jones (Bert); chwaer annwyl Emrys a'r diweddar Elen; modryb hoff Gwenno a John, Huw a Helen, Alan a Caryl; hen fodryb ffyddlon i Dylan, Elliw, Ffion, Megan ac Angharad; cyfnither a chyfaill hoffus a thriw i'w theulu estynedig a'i holl ffrindiau. Angladd cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Rachub dydd Llun 29ain o Ionawr am 1 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym mynwent Coetmor, Bethesda. Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Eirlys i'w rhannu rhwng elusen Gofal Canser Marie Curie, Gweinyddesau'r gymuned a Chefnogaeth Canser Macmillan trwy law Stephen Jones Trefnwr Angladdau Cyf., Pen y Bryn, Bethesda. 01248 600455
Keep me informed of updates