Goronwy WynJONESJONES - GORONWY WYN. 3 Chwefror, 2015. Yn sydyn, yn Ysbyty'r 'Liverpool Heart and Chest', Broadgreen, Lerpwl, ac o 51 Y Glyn, Caernarfon, yn 71 mlwydd oed. Priod cariadus Ann, a thad amhrisiadwy David a Pamela; tad-yng-nghyfraith arbennig Tracy a Chris, a thaid annwyl a charedig Kim a Kevin. Mab y diweddar Margaret a William Jones, a brawd y diweddar Edwin, Now John, Eirlys, Gwladys, Miriam ac Ellen. Ewythr hoff ei holl nithoedd a'i neiaint, ac yn gefnder a ffrind triw i lawer. Bydd colled mawr ar ei ?l. Angladd fore Iau, 12 Chwefror, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon am 11.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Eglwys Penisarwaun. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at 'The Robert Owen House, Relatives Accomodation Charity', Lerpwl. Ymholidau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Goronwy