George RichardJONESJONES - GEORGE RICHARD, 24ain o Fawrth 2015. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn 79 mlwydd oed o Gwalia 2, Bodychain, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Annwyl briod y diweddar Betty Richard Jones, tad cariadus Sylvia, Ifan a Glyn, taid hoffus i Nicholas , Catherine, Martin a Sera, hen daid cariadus i Chloe, Erin, Keira, Jamie, Sion, Keiron a Deion. Brawd y diweddar Hughie, Edith a Percy. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog dydd mawrth 31ain o Fawrth am 11:00 y.b. ac yna i ddilyn yn breifat ym Mynwent Llan Ffestiniog. Dim blodau, derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Alzheimer U.K. trwy law yr Ymgymerwr Gareth Willliams (John Williams a'i Fab) 15, Heol Dorfil, Blaenau Ffestiniog. Ffon ; 01766 830 441.
Keep me informed of updates