Margaret Louisa (Maggie)JONESJONES - MARGARET LOUISA (MAGGIE), Mai 16eg 2018. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, yng nghwmni ei theulu, o Ty Coetmor, Brynbella, Bethesda, yn 92 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Tom ers bron i 70 o flynyddoedd, mam a ffrind garedig, a gofalus i John, Ann, Joan, Meurig, Glenys, a Janet, mam-yng-nghyfraith gefnogol i Bronwen, Dafydd, Janice, Dave, Eirwyn, a'r diweddar Rob, a nain a hen nain arbennig a hwyliog i'w holl wyrion a'i wyresau, a'i gor-wyrion a'i gor-wyresau. Bydd colled enfawr at ei h?l. Angladd brynhawn Iau, Mai 24ain. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch am ei bywyd am 12.30 yn Eglwys Christ Glanogwen, ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 1.30. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof amdani yn ddiolchgar tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Gareth Williams ymgymerwr angladdau 1 Garneddwen, Bethesda: Ff?n 01248 600763.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret