MaryJONESJONES - MARY. 18 Chwefror 2016 yn dawel yn ei chwsg yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog yn 95 mlwydd oed. O 89 Isgraig, Tremadog a gynt o Noddfa Garage Garndolbenmaen. Priod y diweddar Griffith Jones (Guto Garn). Mam arbennig o gariadus i Eleri a Dewi, Carys a Malcolm. Nain ymroddgar i Debbie a Paul, Catrin a Dan, Barri a Julie a Marc a Nia. Hen Nain balch ei gorwr a gorwyresau Martin, Sarah a Becky. Chwaer annwyl i Prydwen a'r diweddar Hugh a Jane Ellen. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog am 2 o'r gloch Dydd Gwener y 26ain o Chwefror ac i ddilyn ym mynwent Bethel. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar iawn tuag at Cymdeithas Spina Bifida Gogledd Cymru ac Ymchwil/Cymdeithas Dementia Gogledd Cymru trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog 01766 512091.
Keep me informed of updates