Mary EllenJONESJONES - MARY ELLEN. 26 Gorffennaf 2014 yn dawel yng Nghartref Plas Penlan, Llangefni, gynt o Ty'n Merddyn, Caergeiliog yn 92 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar William John Jones, mam dyner Geraint a'r diweddar Myfanwy, mam yng nghyfraith Anwen a nain hoffus Gareth a Bryn. Angladd dydd Iau, 31 Gorffennaf. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 1.00 o'r gloch ac yn dilyn yn breifat ym Mynwent Eglwys Llanfairynghornwy. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Eglwys Llanfairynghornwy trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffon (01407) 740 940.
Keep me informed of updates