GwilymJONESJONES - GWILYM, Tachwedd 18fed 2017. Yn 91 mlwydd oed. Yn dawel yng nghwmni ei deulu wedi gofal arbennig yn Ysbyty Gwynedd ac yng Nghartref Nyrsio Madog, Porthmadog, o Bryn Awelon, Llanfair, Harlech. Priod ffyddlon ac annwyl Gwenllian a thad arbennig i Gwynn a Delyth. Brawd i Frances a'r diweddar Hubert a thad yng nghyfraith i Paschal a Geraint. Taid balch i Lucy, Eilir, Matthew a Cari, ac yn hen daid i Isabel, Sion ac Aiden. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Talsarnau ar ddydd Iau 30ain o Dachwedd am hanner dydd ac yna i ddilyn i'r teulu agosaf yn unig yn Amlosgfa Bangor. Blodau'r teulu'n unig ond os y dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gronfa Defibrillator i Llanfair, Harlech drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog. 01766 512091
Keep me informed of updates