Ann Elizabeth A.L.C.M; A.T.S.E; H.C.I.M.JONESAnn Ty Hen, Beulah Yn dawel ar ddydd Llun 30ain Gorffennaf, 2018 tra yng ngofal ei gwr a'i theulu ar aelwyd 'Gerallt', Beulah, hunodd Ann, Hendy, Llanbedr Pont Steffan yn 66 mlwydd oed, priod tyner a gofalus Ken, chwaer annwyl Mary a Brenda, chwaer-yng-nghyfraith hoffus Eilir a Denley, modryb gariadus Llinos, Teleri, Teifi, Tomos, y diweddar Wyn ynghyd a'u teuluoedd. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladdedigaeth yng Nghapel Beulah ger Castellnewydd Emlyn, SA38 9QB dydd Mawrth 7fed Awst am 2.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig. Gwerthfawrogir pe byddech yn gwisgo rhywbeth pinc i'r gwasanaeth. Gellir rhoddi cyfraniad er cof am Ann os dymunir, tuag at 'Uned Adnoddau y Gymuned, Cangen Aberteifi' trwy law Mr Gerwyn Morgan, Muriau Gwyn, Beulah, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion, SA38 9QE. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis. Ff?n (01239) 851005.
Keep me informed of updates