CeinwenJONESJONES - CEINWEN, . 12fed o Awst 2018. Hunodd yn dawel yng Nghartref y Borth, Llanrwst, o Argoed, Llwyn Brith, Llanrwst, gynt o Garth-y-Pigau, Nant-y-Rhiw yn 81 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Evan, mam ofalus Gareth ag Eirian, Eirian a Rhun, nain gariadus Rhys ac Erin, Gethin a Gwawr, Carwyn a Mari a Llywarch a Betsan, hen nain i Deio bach a chwaer hoffus iawn i John. Angladd dydd Llun 20fed o Awst. Yn dilyn Gwasanaeth preifat ar lan y bedd, bydd Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Y Tabernacl, Llanrwst am 12.30 yp. Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ceinwen tuag at Ymchwil Str?c a staff Cartref y Borth lle y cafodd ofal tu hwnt o arbennig ac mae ei'n dyled yn fawr iddynt. G Lloyd Jones, Ymgymerwr, Sgw?r Ancaster, Llanrwst. Ff?n 01492 640600
Keep me informed of updates
Add a tribute for Ceinwen