Osian GlynJONESJONES - OSIAN GLYN, Awst 24ain 2018.. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref 18 Maes Hendre, Penrhyndeudraeth yn 26 mlwydd oed. Mab annwyl Nia a Brian a brawd i Iddon, Aled, Catrin, Alaw, Non a Huw, ac ewythr i Ellie Osian. Bydd gwasanaeth hollol breifat i'r teulu yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Llun Medi 3ydd gan ddilyn yn gyhoeddus yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Penrhyndeudraeth lle cynhelir Gwasanaeth coffa am Osian am 2.30 y prynhawn. Does dim rhaid gwisgo mewn du a bydd gwisg lliwgar - gan gynnwys crysau Man Utd neu grysau peldroed a rygbi Cymru yn dderbynniol. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir at Clic Sargent, Willow, Nyrsus Marie Curie, Hospis yn y Cartref a Nyrsus Gymunedol drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf. Heol Dulyn, Tremadog. Ffon 01766 512091
Keep me informed of updates