John NoelJONESJONES - JOHN NOEL, 7 Rhagfyr, 2018. Yn frawychus o sydyn yn Ysbyty Gwynedd, ac o 53 Mountain Street, Caernarfon (yn enedigol o Gaeathro) yn 70 mlwydd oed. Pardner gofalus a chariadus Edythe, brawd annwyl i Gwynn, Ann ac Ian, a brawd-yng-nghyfraith i Rhian a Menna; ewythr hoffus i Dyfan, Elgan, Sara, Arwel, Iwan a'u pardneriaid, hen ewythr gofalus i'w plant hwy, a ffrind arbennig i Llinos, Sioned a'r plant. Angladd brynhawn Mawrth, 18 Rhagfyr, 2018. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Apêl Ty Gobaith trwy law Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates